Rhagori > Canolbarth y De > Mentrau > Gwella sgiliau ysgrifennu trwy ddatblygu llafaredd disgyblion
“Love Speaking, Adore Writing” Canolbarth De Cymru – Prosiect Ymchwil Gweithredu 7 – 17 o ysgolion.

Dyma oedd y prosiect mwyaf o’r holl brosiectau yng Nghonsortiwm Canolbarth y De.

Mae pob un o’r 17 o ysgolion yn Ne Cymru. Mae 16 o’r ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae’r llall ym Mro Morgannwg.

Mae 16 o’r ysgolion yng nghymoedd De Cymru. Daeth y cymoedd yma’n enwog yn sgil y diwydiannau glo a mwyn haearn. Mae un o’r ysgolion yn y Barri, sef tref ar lan y môr ger Caerdydd.

Mae oedran yr 17 o ysgolion, ynghyd â’u math a’u maint, yn amrywio. Cafodd rhai o’r ysgolion sy’n rhan o’r prosiect eu hadeiladu dros 100 o flynyddoedd yn ôl, tra bod eraill wedi’u hadeiladu yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae 13 o’r ysgolion ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed (Ysgolion Cynradd).

Mae 2 o’r ysgolion ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 7 oed (Ysgolion Babanod).

Mae 2 o’r ysgolion ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 11 oed (Ysgolion Iau).

Mae maint yr ysgolion yn amrywio rhwng 80 a thros 400 o ddisgyblion.

Mae nifer y plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn y 17 o ysgolion yn amrywio rhwng 22% a 66% yn ôl y dadansoddiad o ddata (PLASC Ionawr 2010).

Yn sgil maint y grwp, penderfynwyd yn gynnar y byddai dull o ddosbarthu’r swyddogaethau arwain yn cael ei ddatblygu gyda phump o is-brosiectau mewn pump o ysgolion dan y thema “Improving writing skills through developing oracy”. Rhoddwyd y dasg o drefnu’r cyllid i Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn a rhoddwyd y dasg o gydlynu a threfnu materion addysgol y prosiect i Ysgol Gynradd Llanhari.

Mae enwau’r ysgolion isod, sydd i’w gweld mewn print bras, yn dynodi’r ysgolion hynny sy’n arwain yr is-brosiectau. Dewisodd pob un o’r 17 o ysgolion, a oedd yn rhan o’r prosiect, brosiect i’w ddatblygu. Ond roedd hi’n bosibl i’r holl ysgolion fanteisio ar hyfforddiant ac adnoddau’r gweithgareddau eraill yn ystod y flwyddyn.

‘Teaching Talking’:

Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith, Ysgol Gynradd Tylorstown, Ysgol Babanod Trallwng, Ysgol Gynradd Parc y Darren, Ysgol Gynradd Pentre.

‘Myst’:

Ysgol Gynradd y Santes Fererid, Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn, Ysgol Gynradd y Parc, Ysgol Gynradd Tregatwg.

‘Enhancing writing using Authors’:

Ysgol Gynradd Blaengwawr, Ysgol Babanod Cwmaman, Ysgol Iau Glynhafod, Ysgol Gynradd Oaklands, Ysgol Gynradd y Cefn.

‘Developing oracy in writing using performance based activities’:

Ysgol Iau Pen-y-graig

‘Developing oracy through thinking through talk activities’:

Ysgol Gynradd Llwynypïa, Ysgol Gynradd Llanhari.







Videos:

"Love speaking, Adore Writing" - external providers

"Love speaking, Adore Writing" - internal providers

Resources:

Action plan:-

RAISE action research project September 2010

Tylorstown RAISE evaluations

Teaching Talking:-

Example IEP

Blank register

Chatterbox assessment sheets - basic language (zip)

Techno Teaching:-

'Frightened' lesson plan

Frightened powerpoint

Frightened - examples of work

Frankenstein (WMV)

Thinking through Talk:-

Thinking through talk booklet

Thinking through talk posters

Working with authors:-

Lesson 1 & 2 (zip)

Lesson 3 (zip)

Lesson 4 (zip)

Lesson 5 (zip)

Lesson 6 (zip)

Pupils' work (zip)

Working with performers:-

Teachers' planning

Nigel Little

Yvonne Murphy

Childrens' work

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru