Rhagori > Canolbarth y De > Mentrau > Gwella Lles Emosiynol
SEAL - Sut ydych chi’n gwybod sut y mae pobl yn teimlo?

If you cannot see any controls, hover over the video to bring these up.

Mae Lisa Benbow, Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn Ysgol Uwchradd Pen-Y-Dre yn arwain y dosbarth Blwyddyn 7 trwy gyfres o weithgareddau drama.

Cyflwynir y wers hon ym Mhen-Y-Dre gan Lisa Benbow gyda map meddwl, lle mae’r dosbarth yn nodi’r hyn y gellir ei ganfod trwy edrych ar rywun. Maent yn trafod y ffordd y gellir gweld teimladau person yn ôl iaith y corff, ystum, mynegiant y wyneb a thôn y llais. Yna, rhoddir darluniau i’r dosbarth o wynebau sy’n dangos gwahanol emosiynau. Mewn grwpiau, mae’r plant yn penderfynu beth y maent yn sylwi arno’n gyntaf ar y darluniau hyn, a chan ddefnyddio gwahanol ddarnau o bapur, maent yn adeiladu darlun tebyg i fosaig gan ddechrau gyda’r nodwedd fwyaf amlwg.

Yna, mewn gêm, rhoddir y cyfle i’r plant archwilio emosiynau trwy wneud gwahanol wynebau. Nesaf, mewn parau, gofynnir i’r plant chwilio am eiriau ar gyfer teimladau “cyfforddus” ac “anghyfforddus” sydd wedi’u cuddio o gwmpas yr ystafell ddosbarth. Ar ôl ffeindio gair, rhaid iddynt ei actio hyd oni fyddant yn dod o hyd i un newydd. Nod y gweithgaredd hwn yw helpu i greu gwell dealltwriaeth o’ch hunan, ac yn arbennig, o’n hemosiynau trwy ddysgu sut i’w hadnabod.

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru