Rhagori > Canolbarth y De > Mentrau > Gwella Lles Emosiynol
SEAL - Gweithdy i Rieni

If you cannot see any controls, hover over the video to bring these up.

Liz James, tiwtor oedolion o’r Tîm Cymorth i Rieni a gynhaliodd y sesiynau hyn yn wythnosol yn Ysgol Gynradd Gellifaelog.

Gan ganolbwyntio ar thema 7, Newidiadau â hawl, ym mhecyn adnodd SEAL, edrychodd y grwp o rieni a oedd yn bresennol, ynghyd â’r tiwtor, ar newid a’r teimladau y gall weithiau arwain atynt. Hefyd, bu iddynt drafod sut i reoli’r newidiadau hyn a sut i ymdopi’n bositif gyda newidiadau yn eu bywydau.

Bu iddynt drafod newidiadau sydd wedi digwydd ym mywydau plant a sut y mae gan blant wahanol anghenion wrth iddynt dyfu. Bu iddynt edrych ar newidiadau a ddisgwylir, er enghraifft tyfu’n dalach, dod yn fwy annibynnol a sut, fel rhiant, y gallwn helpu plant i wneud dewisiadau i newid pethau yn eu bywydau.

Edrychodd y tiwtor ar rai gemau y gall y rhieni rhoi cynnig arnynt adref gyda’r plant i annog siarad am newid.

Tua diwedd y sesiwn, bu iddynt drafod sut i helpu plant trwy newidiadau annisgwyl, er enghraifft, marwolaeth rhywun maent yn ei g/charu neu ysgariad, a sut fel rhieni y gallwn helpu iddynt ymdopi â’r newidiadau hyn.

Rhai o’r adnoddau a ddefnyddiwyd;

Llyfryn SEAL i Rieni o’r enw ‘Newidiadau’ a ‘Newidiadau – Gweithgareddau i’r Teulu’ [ y gyfres Aur]

Newidiadau – PowerPoint.

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru