Defnyddio drama fel cyfrwng i gynyddu hunan-barch...
Datblygu rhieni i fod yn bartneriaid medrus ym maes darllen
Ennyn diddordeb rhieni mewn mentrau llythrennedd
Troi llafaredd yn llythrennedd trwy gyfoethogi geiriol
Codi safonau o ran ysgrifennu trwy gyfleoedd sydd wediu strwythuro...
Gwella sgiliau ysgrifennu trwy ddatblygu llafaredd disgyblion
Datblygu darpariaeth briodol yn y cwricwlwm...
Cynyddu hunan-barch disgyblion trwy eu meithrin...
Datblygu lles emosiynol a chymdeithasol disgyblion...
> SEAL - Grŵp Rhieni a Babanod Cyn Oed Ysgol
> SEAL - Gemau Bwrdd Sgiliau Cymdeithasol
> SEAL (Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu)-Datblygu Hunan-fri
> SEAL (Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu) Mynd am Goliau!
> SEAL - Gweithio gyda Rhieni ar brosiect grŵp
> SEAL - Gyrru ymlaen a Ffraeo
> SEAL - Beth syn gwneud ffrind da?
> SEAL - Sut ydych chin gwybod sut y mae pobl yn teimlo?
Lleihaur hyn syn atal disgyblion rhag dysgu...
Deallusrwydd emosiynol a meithrin grwpiau bach i gynyddu hunan-barch
If you cannot see any controls, hover over the video to bring these up.
Suzanne Wall- Ysgol Gynradd DowlaisBu i ni newid ein pwnc yn rheolaidd am nad oedd arnom eisiau cau allan unrhyw blant nad oeddynt wedi mynychu sesiwn yr wythnos flaenorol.
Er mwyn annog ymarfer da yn y cartref ac yn yr ysgol, bu i ni hyrwyddo a gwobrwyo ymddygiad da ar bob adeg. Roedd plant a oedd yn ymddwyn yn dda yn cael eu gwobrwyo gyda sticeri ac yn cael eu canmol, roedd plant nad oeddynt mor rhagweithiol wrth ymddwyn yn dda yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd a’u hannog i ymddwyn mewn ffordd dderbyniol a’u gwobrwyo a’u canmol pan oeddynt yn ymddwyn yn dda. Mae’r athrawes feithrin wedi sylwi ar ymddygiad y plant ac mae hi’n credu bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i ymarfer da LAP/NAP.
Yn ystod yr arsylwad ein pwnc oedd Elen Benfelen a’r Tair Arth (‘Goldilocks and the Three Bears’) , gan ein bod yn teimlo bod gan y stori hon ddigon o amrediad ar gyfer sesiwn iaith a mathemateg lwyddiannus. Bu i ni roi pecynnau adnoddau i’r plant eu rhoi i’w rhieni er mwyn eu defnyddio adref gyda nhw, i annog rhieni i gwblhau tasgau adref-ysgol. Rhoddwyd tasgau bob yn ail wythnos ac yna cafodd y gwaith ei arddangos. Mae tasgau adref-ysgol yn annog plant i gael agwedd dda at waith cartref yn y dyfodol; ac mae’n gyfle ardderchog i blant a rhieni dreulio amser ansawdd gyda’i gilydd.
Iaith
Yn ystod ein sesiynau iaith, roeddem yn annog gwrando ar storïau a chanu rhigymau. Byddai’r plant i gyd yn gwrando ar storïau llyfr mawr gydag un arweinydd grwp, wrth i’r arweinydd grwp arall roi gwybod i rieni am weithgareddau’r prynhawn, y buddiannau y byddai’r plant yn eu cael a phwysigrwydd annog yr un ymarfer da adref.
Rhifedd
Yn ystod ein sesiynau Rhifedd bu i ni annog y plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol. Ein nod oedd datblygu dealltwriaeth y plant o drefn a maint, ac fe anogwyd y plant i ddefnyddio iaith leoliadol gan ddefnyddio’r 3 arth, powlenni a llwyau.
Cerddoriaeth a Datblygiad Creadigol
Anogwyd y rhieni a’r plant i ganu ‘When Goldilocks went to the house of bears’ gyda’i gilydd ar y mat. Bu i ni esbonio i’r rhieni bod canu gyda’ch plentyn yn annog hyder a hunan-fri. Roedd y plant yn mwynhau’r gweithgaredd yma ac yn aml, roeddynt eisiau canu’r gân eto yn y sesiynau dilynol.
Datblygiad Sgiliau Echddygol Manwl a Chreadigol
Bu i ni esbonio i’r plant bod arnom eisiau gwneud darlun mawr a bod angen i bawb helpu. Cymerodd pob plentyn ran yn y gweithgaredd gyda’u rhieni. Cafodd y plant y cyfle i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gweadog a lliw e.e. cerdyn lliw, paent, papur, ffelt, glitter a gwlân. Cafodd y rhieni eu hannog i ofyn cwestiynau perthnasol i’w plant am Elen Benfelen ac i ganiatáu iddynt wneud dewisiadau annibynnol.
Yr wythnos olynol, roedd y plant wrth eu boddau i weld eu gwaith yn cael ei arddangos. Bu i ni esbonio i’r rhieni pa mor bwysig yw annog creadigrwydd plentyn a bod plant wrth eu boddau’n gweld eu gwaith yn cael ei arddangos – hyd yn oed os mai dim ond ar y rhewgell adref y mae hynny!
Datblygiad Personol a Chymdeithasol
Bob sesiwn, bu i ni roi bocs gyda gwahanol thema i’r plant a’u galluogi i archwilio a throchi eu hunain mewn chwarae creadigol a dychmygus, gan eu hannog i ailadrodd stori Elen Benfelen. Bu i ni esbonio i’r rhieni pa mor bwysig yw annog chwarae o ansawdd da a rhoi’r cyfle i blant archwilio a datblygu eu creadigrwydd. Bu i ni argymell na ddylai rhieni gymryd gormod o ran yn chwarae’r plant gan fod angen rhywfaint o amser a lle arnynt i archwilio a dysgu’n annibynnol.