Rhagori > Ynglŷn â Rhagori > Rhai o Fanteision Rhagori
Rhai o Fanteision Rhagori Mae adroddiadau Estyn a’r Uned Pobl a Gwaith yn dweud bod ysgolion Rhagori wedi gallu canfod manteision sylweddol i ddysgwyr sydd dan anfantais.  Ymhlith y rhain y mae:

  • gwell darpariaeth ar gyfer eu hanghenion, gan fod y staff wedi cael dealltwriaeth gliriach o effeithiau tlodi ar ddysgu;

  • mwy o sylw unigol i’w hanghenion, o ganlyniad i’r lefelau staffio uwch a ganiateir gan Rhagori;

  • gwell sgiliau cymdeithasol, personol ac emosiynol, o ganlyniad i’r ffocws ar sicrhau bod gan ddisgyblion fwy o allu i ymgysylltu’n gadarnhaol yn y broses ddysgu;

  • gwelliannau yn y cwricwlwm, gan fod dysgu wedi dod yn fwy perthnasol i anghenion ac uchelgeisiau’r disgyblion hyn;

  • gwell cefnogaeth i ddisgyblion, o ganlyniad i well cysylltiadau â rhieni a’r gymuned ehangach.

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru