Rhagori > SWAMWAC > Adnoddau > The SMILE Project
The SMILE Project SMILE “Mae T mor frwd dros  SMILE, mae’n union fel petai rhywun newydd gynnau’r golau.”  (rhiant)

Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Mark’s yn safle ysgol gynradd gyda 137 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae 36.5% o’r disgyblion yn derbyn cefnogaeth Anghenion Addysgol Arbennig ac mae 35% yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd.  Mae ardal Merlins Bridge yn ardal o ddiweithdra uchel a phrin yw’r cyfleusterau i gynnig cefnogaeth i deuluoedd.

Dros y pedair blynedd diwethaf mae St Mark’s wedi arwain Prosiect SMILE (St. Mark’s Improving Literacy and Emotional Wellbeing) a gyllidir drwy Rhagori.  Caiff y prosiect ei arwain gan ein Gweithiwr Allweddol SMILE ac mae’n targedu plant dan anfantais ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 6 na fyddant efallai’n cyrraedd Lefel 2 neu Lefel 4 heb gymorth wedi’i dargedu.  Mae’r Gweithiwr Allweddol yn gweithio gyda’r disgyblion trwy eu tynnu o’r dosbarth ond drwy ymgynghori’n agos â’r athrawon dosbarth.  Mae ei hamserlen hefyd yn targedu disgyblion a allai fod mewn perygl o gael eu gwahardd wrth ddarparu gofal bugeiliol trwy ddulliau meithrin.  Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bydd yn parhau er bod cyllid Rhagori wedi dod i ben.



The SMILE project

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru