Hafren Junior School : A Case Study
Mae ysgol Hafren yn ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion CA2 sy’n trosglwyddo o Ysgol Fabanod Ladywell Green sy’n rhannu’r un campws. Caiff ei threfnu yn 7 dosbarth ac mae amrywiol oedrannau mewn rhai ohonynt. Ar hyn o bryd ceir 180 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn ac mae gan 46% o’r rheini Anghenion Addysgol Arbennig. Mae 3% o’n disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dwy stâd cyngor yw ein dalgylch gan fwyaf a cheir lefel uchel o ddifreintedd cymdeithasol ac economaidd. Mae 25% yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd.
Dros dair blynedd diwethaf y fenter Rhagori, mae ein rhaglen wedi bod yn canolbwyntio ar ddau brif faes:
Hafren
Dros dair blynedd diwethaf y fenter Rhagori, mae ein rhaglen wedi bod yn canolbwyntio ar ddau brif faes:
- Dawns a Drama – roeddem am dargedu disgyblion sydd, oherwydd anfanteision economaidd gymdeithasol, heb gael profiadau bywyd i’w galluogi i feddwl, i ysgrifennu ac i fynegi eu hunain yn greadigol, ac felly maent yn tangyflawni mewn meysydd megis ysgrifennu straeon a cherddi.
- Garddio – roeddem am dargedu a chanolbwyntio ar grwpiau sydd â phroblemau â’u hymddygiad a’u presenoldeb sy’n eu hachosi i dangyflawni yn yr ysgol.
Hafren