Rhagori arferion gorau - Penybryn
Cynllun Mathemateg Springboard
Mae Springboard yn rhaglen dal i fyny ar gyfer plant ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 7. Mae'r deunyddiau yn canolbwyntio ar feysydd allweddol rhif. Maent yn darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer grwpiau bach o blant y tu allan i'r wers fathemateg ddyddiol yn ystod yr wythnosau pan fydd y meysydd hyn yn cael eu haddysgu yn y wers ddyddiol.
Sgiliau cymdeithasol a phersonol
Cynnig cymorth ychwanegol i hybu sgiliau darllen plant.
Mae’n holl bwysig bod rhieni yn cefnogi’r gwaith drwy adolygu'r gwaith mae’r plentyn yn ei wneud yn yr ysgol drwy:
Mae’n holl bwysig bod hyn yn digwydd bob nos a bod y llyfr a’r dyddiadur yn cael ei ddychwelyd i’r ysgol bob bore.
Penybryn
Cynllun Mathemateg SpringboardMae Springboard yn rhaglen dal i fyny ar gyfer plant ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 7. Mae'r deunyddiau yn canolbwyntio ar feysydd allweddol rhif. Maent yn darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer grwpiau bach o blant y tu allan i'r wers fathemateg ddyddiol yn ystod yr wythnosau pan fydd y meysydd hyn yn cael eu haddysgu yn y wers ddyddiol.
Sgiliau cymdeithasol a phersonol
- Darganfod angen
- Ymweliad ag ysgol fabanod - trafodaeth am ddisgwyliadau'r Cyfnod Sylfaen.
- Cyfarfod staff – holi ynglyn â disgwyliadau sgiliau cymdeithasol a phersonol plant erbyn cyrraedd blwyddyn tri.
- Llunio llythyr/holiaduron, a’u gyrru i rieni/warchodwyr (yn benodol o fewn y grwp targed).
- O’r wybodaeth sydd wedi ei chasglu, cynllunio tasgau i ateb yr anghenion – athrawes blwyddyn tri a chymhorthydd yn cydweithio.
- Adnabod grwpiau targed i weithio gyda hwy ar dasgau penodol.
Cynnig cymorth ychwanegol i hybu sgiliau darllen plant.
Mae’n holl bwysig bod rhieni yn cefnogi’r gwaith drwy adolygu'r gwaith mae’r plentyn yn ei wneud yn yr ysgol drwy:
- wrando arno/ hi yn ail ddarllen y tudalennau
- rhoi neu o wrth ymyl y geiriau sydd wedi ei hysgrifennu wrth ddarllen y geiriau
- rhoi neu o wrth ymyl y geiriau sillafu - ymarfer sillafu yn y llyfr gwaith cartref neu bapur sbâr.
Mae’n holl bwysig bod hyn yn digwydd bob nos a bod y llyfr a’r dyddiadur yn cael ei ddychwelyd i’r ysgol bob bore.
- Cymhorthydd yn gyfrifol, y plant wedi eu dewis o grwp targed a data ysgol gyfan yn dangos anghenion.
- Pwyslais mawr yn cael ei roi ar y cyswllt cartref: cofrestr gan y cymhorthydd er mwyn cadw golwg ar bwy sydd yn dod a’u llyfrau i’r ysgol yn ddyddiol.
- Gwobrwyo/canmol y gefnogaeth o’r cartref.
Penybryn