Rhagori arferion gorau - Emmanuel
1. Fel ffordd o roi cynnig ar ffyrdd arloesol o ddelio gyda disgyblion wedi dadrithio -
Ysgol Emmanuel, y Rhyl
1. Fel ffordd o roi cynnig ar ffyrdd arloesol o ddelio gyda disgyblion wedi dadrithio - - Yn y flwyddyn gyntaf, hyfforddwyd un o’n hathrawon mewn iechyd emosiynol a’i ryddhau am ddau brynhawn yr wythnos i gwnsela disgyblion yr oedd angen amser arnynt i drafod eu problemau.
- Yn yr ail flwyddyn, rhyddhawyd yr un athro am 4 prynhawn yr wythnos i gynnal Grwp Maethu, sef grwp ar gyfer 12 o blant oedd wedi’u henwebu i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol.
- Yn y drydedd flwyddyn, rydym yn defnyddio £4,000 o’r grant Rhagori i 12 plentyn fynd ar fenter ysgolion coedwig. Hyfforddi 1 aelod o’r staff dysgu a chymhorthydd dysgu i fod yn arweinwyr Ysgol Goedwig.
- I ddechrau, hyfforddwyd cymorthyddion dysgu ar sut i ddelio gyda ‘phroblemau’ disgyblion ar ôl iddynt ddefnyddio’r rhaglen RM Maths.
- Wedyn, hyfforddwyd athrawon ar sut i gyflwyno Dyfal donc i ddisgyblion.
- Yna, hyfforddwyd cymorthyddion ar sut i gyflwyno dyfal Donc i ddisgyblion.
- Rydym wrthi’n hyfforddi athrawon ar sut i gyflwyno THRASS.
- Yn ôl y canlyniadau, mae cyrhaeddiad mewn darllen, ysgrifennu, sillafu a mathemateg wedi gwella ar draws yr ysgol.
Ysgol Emmanuel, y Rhyl